Clywedog: Dyn yn pledio'n ddieuog

Llyn Clywedog, ger Llanidloes, Powys Image copyright PA
Image caption Bu farw pedwar o bobl ar ôl i'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo blymio i Lyn Clywedog

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ar ôl i bedwar o bobl foddi mewn llyn ger Llanidloes wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae Gordon Dyche, 24 oed o ardal Llanbrynmair, yn wynebu pedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a phedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Bu farw pedwar o bobl, Emyr Glyn Griffith, 66 oed; Phyllis Iris Hooper, 84 oed; Peter Bricome, 14 oed a Liam Govier, 14 oed, ar ôl i'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo blymio i Lyn Clywedog ym mis Ebrill 2011.

Roedden nhw'n dod o ardal Pontypridd ac wedi bod ar wyliau dros y Pasg yn ardal Machynlleth.

Denise Griffith, 55 oed, oedd yn gyrru car Peugeot 807 y teulu.

Fe lwyddodd hi i nofio i'r lan a galw'r gwasanaethau brys.

Methodd y gwasanaethau brys ag achub ei gŵr, ei mam a'i dau fab maeth.

Cafodd Dyche ei ryddhau ar fechnïaeth.