Anafiadau: Hwb i Gymru

Dan Lydiate a Gethin Jenkins Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Dan Lydiate a Gethin Jenkins yn absennol o'r fuddugoliaeth yn Iwerddon

Bydd Dan Lydiate a Gethin Jenkins yn brwydro am le yn nhîm Cymru fydd yn wynebu'r Alban yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sul.

Mae'r ddau wedi dychwelyd i sesiynau ymarfer yn dilyn anafiadau ar ôl methu'r fuddugoliaeth yn Iwerddon ddydd Sul diwethaf.

Gadawodd Alex Cuthbert y maes ar y diwrnod hwnnw, ond fe fydd yntau hefyd ar gael i wynebu'r Albanwyr.

Capten

Dyw'r newyddion ddim cystal am y capten Sam Warburton.

Bu'n rhaid iddo yntau adael y maes ar yr egwyl yn Nulyn gydag anaf i'w goes, ac mae amheuaeth na fydd wedi gwella mewn pryd.

Unwaith eto mae Cymru wedi oedi 24 awr cyn enwi'r tîm fydd yn wynebu'r Alban tan ar ôl gwrandawiad disgyblu Bradley Davies ddydd Mercher. Bydd y 15 terfynol yn caei eu cyhoeddi ddydd Iau.

Mae'r capten Sam Warburton wedi cyfadde' y bydd yn dalcen caled iddo yntau fod yn ffit erbyn ddydd Sul.

Daeth blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric, i'r maes yn ei le yn Nulyn.

Ond dywedodd hyfforddwr sgiliau Cymru, Neil Jenkins: "Gobeithio y bydd Sam yn iawn.

"Mae gennym gêm fawr arall dydd Sul, ac rydym am gael ein chwaraewyr gorau yn ffit.

"Ond maen nhw'n gleisiau drostynt felly fe gawn weld sut aiff pethau wrth ymarfer o ddydd Mercher ymlaen."

Bydd Bradley Davies yn wynebu achos disgyblu yn dilyn ei dacl anghyfreithlon yn Nulyn, gyda'r hyfforddwr Warren Gatland yn cyfaddef bod rhaid iddo baratoi am y gwaethaf.

Dywedodd Gatland: "Mae Lou Reed gyda ni ar hyn o bryd neu fe all Ryan Jones symud i'r ail reng."

CARFAN CYMRU

Olwyr: Mike Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision), Rhys Webb (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Perpignan), Stephen Jones (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), Gavin Henson (Gleision), Ashley Beck (Gweilch), George North (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Harry Robinson (Gleision), Liam Williams (Scarlets), Lee Bryne (Clermont Auvergne)

Blaenwyr: Craig Mitchell (Exeter Chiefs), Adam Jones (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Paul James (Gweilch), Rhys Gill (Saracens), Rhodri Jones (Scarlets), Matthew Rees (Scarlets), Huw Bennett (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Bradley Davies (Gleision), Ian Evans (Gweilch), Lou Reed (Scarlets), Ryan Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (capten, Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Toby Faletau (Dreigiau), Andy Powell (Sale Sharks), Aaron Shingler (Scarlets).

Straeon perthnasol