Arolwg: 'Cryfhau statws yr iaith'

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Image copyright bbc
Image caption Yr un flwyddyn cafodd Cymdeithas yr Iaith ei sefydlu

Mae arolwg ar ran BBC Cymru yn awgrymu bod y rhan fwyaf o Gymry o blaid cryfhau statws yr iaith Gymraeg ymhellach.

Dywedodd 72% o'r Cymry Cymraeg eu bod o blaid cryfhau statws yr iaith ac roedd dros hanner y rhai di-Gymraeg (56%) o blaid hyn.

Roedd hanner y 1,020 a holwyd yn ddi-Gymraeg.

Cafodd yr arolwg ei gynnal ym mis Ionawr a'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi y diwrnod sy'n nodi 50 mlynedd ers darlith radio Tynged yr Iaith Saunders Lewis.

Yn yr araith yn 1962 fe ddywedodd mai "trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo" i achub yr iaith Gymraeg.

Addysg Gymraeg

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno sefydlwyd mudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

A oes angen cryfhau statws y Gymraeg ymhellach?
Cyf. Cymry Cymraeg Di-Gymraeg Gogledd Canol. a Gorllewin De ddwyrain
Oes 59% 72% 56% 61% 55% 59%
Nac oes 35% 24% 38% 31% 38% 36%
Dim yn gwybod 6% 5% 6% 7% 7% 5%
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Garry Owen yn cael ymateb i arolwg BBC Radio Cymru ar sefyllfa'r iaith gan gychwyn gyda Vaughan Roderick

Mae arolwg y BBC wedi holi pobl dros 16 oed am eu hagweddau at yr iaith.

Dywed bron tri chwater y rhai a holwyd mai sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i blant yw'r ffordd orau o warchod yr iaith.

Mae 72% yn credu mai sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yw'r ffactor pwysicaf wrth ddiogelu'r iaith o'i gymharu â 25% sy'n credu mai'r ffactor pwysicaf yw bod rhieni yn dewis addysg Gymraeg i'w plant.

A yw Cymry Cymraeg yn cael mantais annheg?
Cyf. Cymry Cymraeg Di-Gymraeg Gogledd Canol. a Gorllewin De ddwyrain
Ydyn 29% 28% 29% 29% 32% 28%
Nac ydyn 64% 68% 63% 64% 62% 65%
Dim yn gwybod 7% 4% 8% 7% 7% 7%

Mae bron i 64% o'r farn nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael mantais annheg dros rai sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Ac mae'r mwyafrif llethol, 83%, o'r farn ei bod yn iawn defnyddio arian cyhoeddus i hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg.

Mae dros dri chwarter y sampl o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o ddogfennau swyddogol cyhoeddus.

A yw hi'n iawn i ddefnyddio arian cyhoeddus i hybu'r iaith?
Cyf. Cymry Cymraeg Di-Gymraeg Gogledd Canol. a Gorllewin De ddwyrain
Ydy 83% 87% 83% 83% 85% 83%
Nac ydy 13% 7% 14% 11% 11% 14%
Dim yn gwybod 4% 5% 4% 6% 3% 3%

Dim ond un o bob tri (32%) sydd o'r farn fod y gallu i siarad Cymraeg yn gwneud unigolyn yn fwy o Gymro.

Defnydd

Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o feddwl hyn ond maen nhw'n dal yn y lleiafrif (43%).

Cred hanner y siaradwyr Cymraeg bod angen mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith yn gyffredinol.

Ond mae llai na hanner y siaradwyr Cymraeg a holwyd yn defnyddio'r Gymraeg wrth drafod â chwmnïau a sefydliadau gwahanol.

Mae canran uwch yn defnyddio'r Gymraeg yn y siopau a'r archfarchnadoedd (47%), a'r cynghorau neu'r llywodraeth (42%) na gyda'r banciau a chwmnïau ariannol (31%) a'r cwmnïau ffôn, trydan, nwy a dŵr (23%).

  • Roedd y sampl yn cynnwys 510 o siaradwyr Cymraeg a 510 o rai di-Gymraeg, ac mae'r canlyniadau wedi eu pwysoli i boblogaeth Cymru.
  • Cafodd yr arolwg ei gynnal gan gwmni Beaufort Research.