Ffrwydriad: Heddlu'n holi ail ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn holi ail swyddog cwmni olew wedi marwolaeth pedwar o bobl mewn ffrwydriad mewn purfa ym mis Mehefin y llynedd.
Mae'r dyn yn cael ei holi "mewn cysylltiad â throseddau posib dynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd".
Bu farw Julie Schmitz, Andrew Jenkins, Dennis Riley a Robert Broome o ardal Penfro ac Aberdaugleddau yn ffatri Chevron ym Mhenfro.
Mae'r dyn, sy'n cael ei gyflogi gan Valero Energy Limited yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu, Hwlffordd.
Cafodd y dyn cyntaf, sy hefyd yn cael ei gyflogi gan Valero Energy, ei holi mewn cysylltiad â'r un troseddau posib.
Ar y pryd cwmni Chevron oedd yn berchen y burfa.
Roedd Chevron wedi dweud bod y ffrwydriad wedi digwydd wrth i danc storio gael ei ddadgomisiynu ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
£477 miliwn
Cafodd y burfa olew ei gwerthu yn ddiweddarach i gwmni Valero Energy o Texas am £477 miliwn.
Ychwanegodd yr heddlu fod yr ymchwiliad, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn gymhleth iawn.
Mae cwest i farwolaeth y pedwar wedi ei agor a'i ohirio.
Straeon perthnasol
- 8 Chwefror 2012
- 4 Mehefin 2011
- 3 Mehefin 2011
- 13 Mehefin 2011
- 5 Awst 2011
- 11 Mawrth 2011