Pleidlais diffyg hyder yn erbyn cyngor sir yn methu
- Cyhoeddwyd

Mae pleidlais diffyg hyder yn Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu.
Enillodd Meryl Gravell o bum pleidlais wedi cynnig oedd yn honni ei bod "wedi sarhau gweithwyr cyngor a phrotestwyr sy'n ymgyrchu i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli".
Roedd 36 yn erbyn a 31 o blaid.
Grŵp Plaid Cymru wnaeth gyflwyno'r cynnig mewn cyfarfod llawn o'r cyngor.
'Dwyn anfri'
Plaid Cymru (30 o aelodau) yw'r grŵp unigol mwyaf ar y cyngor lle mae cyfanswm o 73 o gynghorwyr.
Cyn y cyfarfod dywedodd Peter Hughes Griffiths, arweinydd y grŵp, ei fod yn anfodlon ar sylwadau'r arweinydd yng nghanolfan elusen gyffuriau Chooselife yn Llanelli ar Ionawr 12.
Honnodd fod y sylwadau'n "dwyn anfri annerbyniol ar staff ac aelodau'r cyngor sir".
Roedd hi, meddai, wedi dweud na fyddai'r cyngor yn wynebu unrhyw broblemau pe bai'r 9,000 o staff yn gweithio mor galed â rheolwr canolfan Choose Life.
Roedd y cynnig o ddiffyg hyder hefyd yn honni ei bod hi wedi dweud bod protestwyr oedd am ddiogelu gwasanaethau Ysbyty Tywysog Philip yn "ddihirod".
Mewn datganiad cyn y bleidlais dywedodd yr arweinydd fod hon yn ymdrech "bitw" gan Plaid Cymru i ddefnyddio staff y cyngor a phrotestwyr Ysbyty Tywysog Philip er mwyn cael sylw.
'Amddiffyn'
"Rwy wedi egluro bod y sylwadau am 'ddihirod' wedi cyfeirio at leiafrif o bobl oedd wedi dod yno i wawdio'r rheolwr a staff Chooselife - mae hynny'n glir i bawb ei weld ar ddeunydd ffilm ar YouTube," meddai.
"Rwy wedi egluro fy sylwadau ynglŷn â'r staff. Wrth edrych yn ôl, roedd y geiriau yn rhai anffodus ond doedd dim bwriad i feirniadu staff y cyngor mewn unrhyw fodd.
"Y cwbl oeddwn i yn ei wneud oedd amddiffyn y rheolwr a staff Chooselife.
"Rwyf wedi ymddiheuro yn gyhoeddus ac yn uniongyrchol i'r staff am unrhyw gamddealltwriaeth.
"Rwy'n ddiolchgar i'r bobol sy' wedi dangos cefnogaeth ac wedi bod mor garedig."
Straeon perthnasol
- 2 Chwefror 2012