Achos llofruddiaeth yn cael ei ohirio
- Cyhoeddwyd

Roedd Emma Louise Jones yn fam ac yn 31 oed
Mae'r achos yn erbyn menyw 23 oed sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio mam ifanc ym Mhenygroes, Gwynedd, wedi cael ei ohirio ddydd Mercher.
Ni wnaeth Alwen Eluned Jones, o Ger-y-Llan, Llanllyfni, bledio naill ffordd neu'r llall.
Gorchmynnodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y dylid ei chadw yn y ddalfa tan fis Ebrill.
Mae hi'n wynebu cyhuddiad o lofruddio Emma Jones, 31 oed, yn Nhrem Yr Wyddfa, Penygroes, yn ystod oriau mân bore Sadwrn Rhagfyr 10 2011.
Cafodd Miss Jones, cynorthwyydd arlwyo mewn canolfan addysgol yn Nantlle, ei chludo ar frys i'r ysbyty ym Mangor wedi'r digwyddiad, ond bu farw'n ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011