Litrau o ddisel wedi gollwng ar ôl damwain

  • Cyhoeddwyd
MapFfynhonnell y llun, bbc

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i ddamwain yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi arwain at ollwng litrau sylweddol o ddisel.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A483 yn Ffairfach.

Mae tancer olew wedi gollwng tua 2,000 litr o ddisel.

Mae'r ffordd wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng Ffordd Bethlehem (A476) a Stryd Fawr Llandybie (Ffordd Blaenau y B4556).

Caiff traffig eu dargyfeirio yn yr ardal.

Fe fu diffoddwyr tân o Rydaman ac uned gwarchod yr amgylchedd o Lanelli yn diogelu'r ardal.

Mae tîm o arbenigwyr Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau ar y safle.

Fe adawodd y diffoddwyr tân am 1.30pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol