Dyfodol elusen yn y fantol?
- Cyhoeddwyd

Mae dyfodol elusen lleiafrifoedd ethnig mwyaf amlwg Cymru yn y fantol wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad am honiadau o anghysondebau ariannol.
Fore Iau daeth tystiolaeth i law bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyhuddiadau yn erbyn AWEMA - Cynghrair Lleiafrifoedd Ethnig Cymru - yn 2007.
Roedd hynny dair blynedd ar ôl yr adroddiad cyntaf wnaeth feirniadu'r elusen.
Mae AWEMA a'i phrif weithredwr Naz Malik wedi bod yn destun cyhuddiadau o gamweinyddu ariannol a bwlian ers wythnosau ac mae ei chyllid wedi ei rhewi gan Lywodraeth Cymru.
Beirniadaeth gynyddol
Cafwyd beirniadaeth gynyddol o ymddygiad Llywodraeth Cymru gan y gwrthbleidiau yn enwedig yn sgil canfod adroddiad yr wythnos hon oedd wedi argymell rhewi cyllid AWEMA yn 2004.
Mae gohebiaeth rhwng AWEMA a Llywodraeth Cymru o 2007 wedi dod i ddwylo'r BBC sy'n cynnwys rhagor o gyhuddiadau ynghylch yr elusen a'i phrif weithredwr.
Disgwylir i Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru, gyhoeddi casgliadau'r ymchwiliad diweddara i AWEMA mewn datganiad ysgrifenedig i aelodau'r cynulliad ddydd Iau.
Mae Mr Malik wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw tan fod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.
Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo'r Llywodraeth o weithredu'n araf deg ac wedi sôn am gysylltiadau Mr Malik â'r blaid Lafur.
Mae Llafur wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o geisio eu pardduo.
Mae'r elusen AWEMA yn ymdrin â £8.5 miliwn o arian cyhoeddus, gan ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2012
- 7 Chwefror 2012
- 6 Chwefror 2012
- 3 Chwefror 2012
- 3 Chwefror 2012
- 2 Chwefror 2012
- 31 Ionawr 2012