Yr Elyrch yn cadw Rodgers tan 2015
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr clwb pêl-droed Abertawe wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner fydd yn ei gadw yn Stadiwm y Liberty tan haf 2015.
Mae Rodgers wedi arwyddo cytundebau blwyddyn ers iddo ymuno â'r Elyrch ym mis Gorffennaf 2010 ond y gred yw bod Abertawe yn awyddus iddo arwyddo cytundeb tymor hir.
Llwyddodd i dywys yr Elyrch i'r Uwchgynghrair yn ei dymor cyntaf fel rheolwr ac mae Abertawe wedi chwarae'n dda o dan ei reolaeth hyd yn hyn y tymor hwn.
Dywedodd Rodgers, 39 oed, ei fod ar ben ei ddigon i arwyddo'r cytundeb newydd.
Gwersyll ymarfer
"Rwyf wedi bod yn hapus iawn o ran fy ngwaith yn ystod y 19 mis diwethaf," ychwanegodd.
"Gallai addo y byddaf yn parhau i frwydro dros y clwb a'i gefnogwyr i sicrhau y bydd Abertawe yn aros yn yr Uwchgynghrair am gyfnod hir.
"Roedd arwyddo'r cytundeb hwn yn un o benderfyniadau hawsaf fy mywyd."
Wedi i Abertawe guro Arsenal o 3-2 yn Stadiwm Liberty ym mis Ionawr, rhai sylwebyddion yn credu y byddai Rodgers o bosib yn darged i glybiau mwy.
Mae Rodgers, gafodd ein yn Swydd Antrim, eisoes wedi dweud na fyddai ar hyn o bryd am gael ei ystyried i fod yn rheolwr ar Ogledd Iwerddon.
Mae Abertawe yn ddegfed yn nhabl yr Uwchgynghrair yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn West Bromwich Albion ddydd Sadwrn, a bydd y chwaraewyr yn cael gwobr arall yn syth wedi'r gêm y Sadwrn nesaf.
Wedi ymweliad Norwich â Stadiwm Liberty, bydd carfan Abertawe yn hedfan am yr haul i wersyll ymarfer yn yr Ynysoedd Dedwydd.
Gan fod y penwythnos canlynol yn benwythnos Cwpan yr FA - cystadleuaeth y mae Abertawe eisoes allan ohoni - mae Rodgers wedi manteisio ar y cyfle i gael ymarfer yng ngwres Tenerife.
Mae gan Abertawe bedair gêm ym mis Mawrth gan gynnwys ymweliad Manchester City â Stadiwm Liberty, ac yna chwe gêm ym mis Ebrill cyn gorffen y tymor gyda gemau yn erbyn Manchester United a Lerpwl.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2012
- 23 Ionawr 2012
- 18 Ionawr 2012