Simon Weston eisiau swydd comisiynydd yr heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae Simon Weston, y cyn-filwr fu'n brwydro yn Rhyfel Y Falkland, wedi dweud ei fod eisiau ymgeisio yn yr etholiad i fod yn Gomisiynydd cyntaf Heddlu a Throsedd De Cymru.
Fe fydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol.
"Ni ddylai fod yn swydd wleidyddol," meddai'r cyn filwr 50 oed, a gafodd ei greithio'n ddrwg yn ystod ymosodiad Yr Ariannin ar long y Syr Galahad yn Rhyfel Y Falkland.
"Os gewch chi ddau wleidydd yn ymgeisio, fe fydd pobl yn pleidleisio dros eu plaid.
"Mae angen rhywun fydd yn sicrhau y bydd pobl yn cydweithio a pheidio â chreu rhaniadau."
Ar Dachwedd 15, 2012 fe fydd 'na etholiad i ddewis Comisiynwyr Heddlu a Throsedd mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr y tu allan i Lundain.
Ymhlith y dyletswyddau y mae sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi'r prif gwnstabl.
Llywodraeth y Glymblaid yn San Steffan sydd wedi cyflwyno'r newid ac mae disgwyl i ymgeiswyr sefyll ar ran plaid neu'n annibynnol.
Fe fydd cyflog y comisiynydd yn Heddlu De Cymru yn £85,000 y flwyddyn.
Mae'r cyn-weinidog plismona Alun Michael hefyd wedi dweud ei fod eisiau ymgeisio yn yr etholiad i fod yn Gomisiynydd cyntaf Heddlu a Throsedd De Cymru.