Prosiectau i annog 'llais y bobl'
- Published
Mae grwpiau ledled Cymru i dderbyn mwy na £300,000 gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu prosiectau sydd â'r nod o roi llais cryfach i'w cymunedau.
Bydd 15 o brosiectau yn rhannu cyfanswm o £314,115 mewn grantiau datblygu.
Ar ôl cyfnod o ddatblygu eu prosiectau ymhellach, bydd yna gyfle am ail rownd o ariannu - gyda chyfle i gael rhwng £500,000 a £1.5 miliwn ar gyfer y prosiectau.
Ar Ynys Môn, bydd Medrwn Môn yn gwario £25,000 ar ddatblygu eu cynigion i gyflwyno 10 prosiect dros bedair blynedd. Eu nod yw annog pobl hŷn, pobl iau, pobl anabl, pobl ddigartref a grwpiau difreintiedig i ddatblygu sgiliau a hyder, er mwyn eu galluogi i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau, a chynllunio a chyflwyno gwasanaethau ar yr ynys.
Bydd NEWVOL yn Sir Ddinbych yn gwario £22,600 ar ddatblygu eu menter ar gyfer cynnal portffolio o chwe phrosiect ledled y wlad a fydd yn targedu menywod a phobl ifanc sy'n fregus, ynghyd â chymunedau Bruton Park, Dinbych Uchaf a rhannau gorllewinol a deheuol Y Rhyl.
Yng Ngheredigion, bydd grant o £23,753 i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion yn eu helpu i wireddu eu huchelgais o gynnal saith prosiect fydd yn targedu dinasyddion sydd wedi'u dadrithio, gan gynnwys gofalwyr, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl iau a rhai sydd â nam ar eu golwg.
Rhannu gwybodaeth
Bydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro'n defnyddio £22,028 i ddatblygu prosiect a fydd yn cynnwys aelodau'r gymuned sydd wedi'u dadrithio, ac ar gyfer grwpiau penodol gan gynnwys gofalwyr, pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl iau a'r rhai sydd â nam ar y golwg.
Gan fod Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn cwmpasu pedwar awdurdod lleol, maent yn gymwys i wneud dau gais ac mae dau grant datblygu wedi'u dyfarnu iddynt.
Mae un prosiect yn cynnwys siroedd Blaenau Gwent a Chaerffili, ble bydd grant o £22,156 yn cael ei wario ar ddatblygu cynigion ar gyfer portffolio o wyth prosiect a fydd yn canolbwyntio ar ddod â defnyddwyr gwasanaethau ynghyd i rannu gwybodaeth, profiad ac arfer gorau.
Bydd y prosiect yn targedu grwpiau gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, pobl hŷn, goroeswyr strôc, tenantiaid, teuluoedd a chymunedau gwledig sy'n anodd eu cyrraedd.
Bydd grant datblygu arall o £22,156 yn galluogi GAVO i ddatblygu cynigion i redeg prosiect a fydd yn targedu grwpiau yng Nghasnewydd a Sir Fynwy.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Ionawr 2012
- Published
- 24 Ionawr 2012
- Published
- 11 Ionawr 2012