Saethu defaid: Chwilio am wn
- Cyhoeddwyd

Mae gan y gwn ddolen wen, ac mae'n debyg i'r uchod
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i wn llaw, ar ôl i ddwy ddafad gael eu saethu'n farw yn ardal Rhydyfelin, Pontypridd.
Mae Heddlu'r De wedi arestio dyn 37 oed a bachgen 12 oed ar amheuaeth o bod â dryll yn eu meddiant ac o ddifrod troseddol.
Derbyniodd yr heddlu wybodaeth am y defaid ddydd Mawrth am 4:30pm.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lee Porter: "Fe allai'r gwn anghyfreithlon hwn fod yn beryglus os nad yw'n cael ei drosglwyddo i ofal yr heddlu cyn gynted â phosib.
"Mae hwn yn ddigwyddiad anarferol iawn.
"Dyw troseddau gyda gynnau ddim yn digwydd yn yr ardal hon fel arfer".
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol