Eira a glaw rhewllyd i rannau o Gymru
- Published
Mae 'na rybuddion o dywydd gaeafol a glaw rhewllyd yn nwyrain Cymru dros yr oriau nesaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am eira mewn rhannau o Gymru brynhawn dydd Iau wrth i'r tywydd oer barhau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod yr amgylchiadau ar Fwlch y Crimea, yr A470, yn anodd iawn amser cinio oherwydd y rhew ac maen nhw'n argymell gyrwyr i yrru yn ofalus ond bod y cyflwr yn gwella.
Yn ôl yr arbenigwyr fe fydd yna law rhewllyd, sef pan mae'r glaw yn syrthio drwy'r aer mewn tymheredd o dan y pwynt rhewi.
Fe fydd glaw ar dir uchel yn y canolbarth a'r gogledd brynhawn Iau yn arwain at amgylchiadau gyrru anodd.
Mwyn
Y rhagolwg diweddara yw bod disgwyl 1-5cm o eira mewn rhannau o'r dwyrain.
Yr ardaloedd all wynebu tywydd gaeafol yw rhannau o'r de ddwyrain, Powys, Sir Fynwy a'r Gororau.
Y cyngor yw i fod yn ofalus ac i gadw golwg ar y rhagolygon tywydd am y manylion diweddara am yr eira dros nos a dydd Gwener.
Wedi'r tywydd oer mae disgwyl i'r penwythnos fod yn fwynach.
Nos Iau diwethaf oedd y noson oera hyd yma yng Nghymru gyda'r tymheredd yn gostwng ar ei isa i -11C (12.2F) ym Mhowys.