Teyrngedau cyhoeddus i sefydlydd maes awyr yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd

Fe fydd angladd gŵr a fu farw mewn damwain awyren yn y canolbarth fis Ionawr yn cychwyn yn y maes awyr y sefydlodd.
Bu farw Bob Jones, 60 oed, a'r peilot profiadol Steve Carr, 55 oed, o Ruthun wedi damwain ger Y Trallwng ar Ionawr 18.
Dydd Sadwrn y bydd angladd Mr Jones a bydd yn cynnwys gwasanaeth cyhoeddus brynhawn Sadwrn yn Eglwys Santes Fair yn Y Trallwng.
Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain awyren saith sedd wnaeth ddisgyn ger Cefn Digoll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ger Tre'r Llai.
Fe adeiladodd Mr Jones y maes awyr ar dir ger ei fferm a'i ddatblygu o lain glanio gwair bach yn 1990 i fod yn faes awyr pwysig i fusnesau'r ardal.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn y canolbarth yn defnyddio'r maes awyr.
Fe fydd y gwasanaeth yn yr eglwys yn un cyhoeddus ac yn ddathliad o fywyd Mr Jones am 1.30pm.
Bydd angladd Mr Carr, cyn-beilot gyda'r Llu Awyr a'r cynhyrchydd cerddorol, yn cael ei gynnal ddydd Gwener yn Amlosgfa Pentrebychan yn Wrecsam.
Mae'r Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi cadarnhau bod gweddillion yr awyren wedi mynd i'w pencadlys yn Farnborough, Sir Hampshire.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012