Warburton i arwain Cymru wrth i Ryan Jones newid safle
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Ryan Jones yn cymryd lle Bradley Davies fel clo wrth i Gymru wynebu Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Cafodd Davies gerdyn melyn yn y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul diwethaf, a dydd Mercher cafodd ei wahardd am saith wythnos wedi gwrandawiad panel disgyblu.
Mae Sam Warburton wedi gwella i arwain Cymru ar ôl iddo adael y cae gydag anaf i'w goes yn y gêm ddydd Sul pan gurodd Cymru'r Gwyddelod o 21-23.
Roedd disgwyl i'r hyfforddwr Warren Gatland symud Jones i fod yn bartner i Ian Evans yn yr ail reng wedi gwaharddiad Davies.
Roedd o wedi gwneud tacl beryglus ar eilydd Iwerddon, Donnacha Ryan.
Mae Dan Lydiate a Gethin Jenkins hefyd yn holliach.
Bydd Jenkins yn ennill cap rhif 84 dros Gymru ac yn dychwelyd i'r tîm yn lle Rhys Gill.
Profiad
Ar y fainc mae clo y Scarlets, Lou Reed, sydd heb ennill cap eto.
Gyda'r newidiadau yn y blaen mae Gatland yn cadw at y cefnwyr yn enwedig o gofio mai Jonathan Davies (2) a George North sgoriodd tri chais Cymru yn Nulyn.
"Mae Gethin yn dod â chyfoeth o brofiad i'r tîm, dyna'r prif reswm am ei gynnwys o yn hytrach na Rhys," meddai Gatland.
"Mae hyblygrwydd Ryan yn caniatáu iddo chwarae yn lle Bradley ac rydym yn croesawu'r ffaith bod Dan yn well.
"Allwn ni ddim fforddio tanystyried gallu'r Alban.
"Mae'r meddiant oedd ganddyn nhw yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf yn golygu y dylen nhw fod wedi ennill y gêm ac fe fyddan nhw'n dod i Gaerdydd yn gwybod hynny."
Dwywaith o'r blaen y mae Cymru wedi ennill y ddwy gêm agoriadol yn y bencampwriaeth, yn 2005 a 2008, pan enillon nhw'r Gamp Lawn.
Dydi'r Alban ddim wedi ennill yng Nghaerdydd mewn 10 mlynedd.
Tîm Cymru i wynebu'r Alban:
Olwyr: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne), Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Huw Bennett (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Toby Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Lou Reed (Scarlets), Andy Powell (Sale Sharks), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
Cymru v Yr Alban, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd:Dydd Sul, Chwefror 12, 3pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012