Tafarn yn ennill prif wobr CAMRA
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Mae tafarn yn sir Wrecsam wedi ennill cystadleuaeth Tafarn Brydeinig y Flwyddyn.
Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu gan y Campaign for Real Ale (CAMRA).
Dyma'r tro cyntaf i dafarn Cymreig gipio'r wobr arbennig yma, sydd yn cael ei beirniadu gan 135,000 o aelodau CAMRA dros flwyddyn gyfan.
Y Bridge End Inn, yn Rhiwabon sydd wedi ennill y wobr eleni.
Dywedodd y tafarnwr, Peter McGivern, ei fod wrth ei fodd ac yn falch iawn bod y dafarn wedi ennill.
Bu'r dafarn ar gau am chwe mis cyn i Mr McGivern ei ailagor dwy flynedd a hanner yn ôl.
"Mae wedi bod yn waith caled ond yn llafur cariad," meddai.
"Roeddwn am greu tafarn y byddwn i'n hoffi mynd iddo a thafarn sy'n canolbwyntio ar gwrw yn hytrach na bwyd.
"Mae gennym saith pwmp llaw ac rydym yn newid y cwrw sydd ar werth yn aml.
"Rydym yn cael cwrw gan tua 100 o fragdai bach, llawer ohonyn nhw yng Nghymru a'r Gororau.
"Yn ogystal rydym yn cynnig seidr lleol o Landegla."
Nid oes jiwcbocs na theledu yn y dafarn.
Y bobl sy'n yfed yno sydd yn creu'r diddanwch yn ôl y tafarnwr.
"Gall bobl siarad a darllen y llyfrau sydd gennym yma," meddai.
Dywedodd Julian Hough, Cyfarwyddwr Tafarndai ar gyfer CAMRA: "Mae'r dafarn yn llwyddiant anhygoel, ac yn esiampl berffaith o dafarn leol sy'n chwarae rhan allweddol wrth galon cymuned fach."
Ychwanegodd Mr McGivern y byddai ennill y wobr yn ennyn diddordeb yn y dafarn.
"Mae'n gyfiawnhad am ein holl waith caled," meddai.
Straeon perthnasol
- 3 Chwefror 2012
- 12 Awst 2011
- 16 Gorffennaf 2011