Ffilmiau byrion gan ddisgyblion
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfres o ffilmiau byrion wedi eu hanimeiddio am beryglon alcohol a chyffuriau yn cael eu dangos mewn pedwar ysbyty yn ne Cymru.
Cafodd y ffilmiau eu paratoi gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Maesteg.
Testun y ffilmiau yw pryderon y disgyblion am faterion yn eu cymunedau, a digwyddiadau go iawn y maen nhw wedi gweld neu glywed amdanyn nhw.
Gydol mis Chwefror, bydd y ffilmiau'n cael eu dangos mewn adrannau damweiniau, ffreuturiau ac adrannau cleifion allanol ysbytai yn Abertawe, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y cynllun ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, ac mae'n cael ei redeg gan gymdeithas atal troseddu lleol a'r tîm plismona cymunedol.
Syniadau a'r gwaith
Dywedodd y Swyddog Cefnogol Plismona Cymunedol Bella Rees bod 13 o bobl ifanc rhwng 12 a 13 oed yn rhan o'r cynllun.
"Nhw wnaeth ddewis camddefnydd o alcohol a chyffuriau fel problem bwysig yn y gymuned."
Fe gafodd y criw gymorth gan animeiddwyr proffesiynol i baratoi'r pedair ffilm, ond dywedodd Ms Rees mai'r disgyblion gafodd y syniadau a gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith caib a rhaw.
"Fe gymrodd yr oedolion gam yn ôl, a'r disgyblion wnaeth y cyfan o ysgrifennu stori-fyrddau i greu'r cymeriadau sy'n ymddangos ar y sgrin a gwneud y gwaith trosleisio."
Negeseuon cymunedol
Y bwriad wrth baratoi'r ffilmiau oedd eu dangos i ddisgyblion eraill yn unig.
Ond dywedodd Ms Rees bod rheolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cael clywed am y cynllun a chytuno i'w dangos mewn ysbytai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd: "Mae gennym sgriniau gwybodaeth yn ein pedwar prif ysbyty - Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont, Castell-nedd Port Talbot, Singleton a Threforys.
"Maen nhw mewn ardaloedd lle mae pobl yn eistedd megis adrannau damweiniau, ffreuturiau a chleifion allanol.
"Y bwriad yw cynnwys negeseuon cymunedol arnynt hefyd, yn enwedig rhai sy'n allweddol i iechyd cyhoeddus, ac rydym wrth ein bodd i fedru dangos yr animeiddio gwych a grëwyd gan y bobl ifanc yma."
Straeon perthnasol
- 18 Tachwedd 2011
- 24 Tachwedd 2011
- 12 Hydref 2011