Rhybudd pysgotwyr am lygredd
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp o bysgotwyr yng Ngwynedd am gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio atal llygredd rhag difetha afonydd.
Dywed yr aelodau bod niferoedd yr eog a sewin yn sylweddol is yn afonydd Seiont, Gwyrfai a Llyfni, a bod carffosiaeth yn effeithio ar Lyn Padarn yn Llanberis.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd y dylai holl arllwysiadau o garffosiaeth i Lyn Padarn gael eu hatal, ac mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn ceisio datrys y broblem.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am drefnu cyfarfod.
Dim gwarchodaeth
Yn ôl Huw Hughes, ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, mae nifer yr eog a'r sewin sy'n cael eu dal i lawr.
Dywedodd bod y problemau yn y Seiont yn gysylltiedig â'r gollyngiadau carffosiaeth i Lyn Padarn ac arllwysiadau afreolaidd o orsaf bŵer hydro Dinorwig.
Mynegodd Mr Hughes ei bryderon yn ei adroddiad misol i'r cylchgrawn Trout and Salmon.
Mae rhannu o'r Seiont â statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn gwarchod y torgoch yn Llyn Padarn, ond dywedodd Mr Hughes: "Nid yw hynny wedi profi'n fawr o warchodaeth."
Mae'r Gwyrfai wedi ei chofrestru o dan gyfarwyddyd cynefinoedd Ewropeaidd, ond honnodd Mr Hughes fod hyn wedi bod yn wastraff amser cyn belled ag y mae gwarchod pysgod mudol yn y cwestiwn.
Honnodd hefyd bod y Llyfni - un o brif ganolfannau pysgota sewin Cymru - hefyd wedi dioddef oherwydd arllwysiadau carffosiaeth.
Rhwystredigaeth
"Rydym ni fel clwb wedi gofyn am gyfarfod gyda Gweinidog Amgylchedd Cymru mewn un ymgais arall i geisio gorfodi Dŵr Cymru i weithredu ar frys i achub ein dyfroedd," meddai Mr Hughes.
Ychwanegodd bod y clwb yn teimlo rhwystredigaeth nad yw Asiantaeth yr Amgylchedd - er gwaethaf tystiolaeth ysgubol - yn medru gorfodi'r cwmni dŵr i weithredu yn Llanberis.
Wrth ddweud eu bod nhw hefyd yn bryderus, dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu gan gyflwyno safonau llymach er mwyn lleihau faint o garffosiaeth sy'n cael eu tywallt i'r llyn, ond bod eu pwerau yn gyfyng.
Dywedodd y llefarydd: "Rydym nawr yn credu mai'r unig ateb yw atal arllwysiadau yn llwyr fel y gall y llyn wella a dod yn gynefin gwell i'r torgoch."
Ychwanegodd mai'r amgylchiadau yn y llyn oedd hefyd yn gyfrifol am yr algae a welwyd yno yn 2009 gan effeithio ar y dŵr, a'r economi leol yn y pen draw.
Dywedodd hefyd bod y ddealltwriaeth o'r amgylchedd wedi newid yn sylweddol ers i'r gwaith carffosiaeth gael ei godi 60 mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd: "Yn syml, fydden ni ddim wedi rhoi caniatâd i'r math yma o system mewn lleoliad mor sensitif."
'Ffactorau eraill'
Dywedodd Dŵr Cymru nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw bryderon yn Afon Llyfni.
Dywedodd llefarydd bod yr arllwysiadau i Lyn Padarn yn cydymffurfio â gofynion llym Asiantaeth yr Amgylchedd.
"Mae ffactorau eraill yn gyfrifol am y problemau yn Llyn Padarn," meddai, "gan gynnwys llygredd cymysg o ffynonellau fel amaethyddiaeth sydd angen eu hystyried."
Byddai symud yr arllwysiadau o'r gwaith i rywle arall yn golygu cost sylweddol i gwsmeriaid, ac yn gofyn am "ail-flaenoriaethu ein rhaglen fuddsoddi", meddai Dŵr Cymru.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth ac eraill mewn ymgais i ddatrys y broblem, ac ail-flaenoriaethu ein gwelliannau amgylcheddol fel bo'r angen."
Straeon perthnasol
- 9 Gorffennaf 2011
- 12 Medi 2009