Dathliadau i nodi 200 mlynedd Camlas Mynwy ac Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Yn ystod dydd Gwener mae dathliadau i nodi 200 mlynedd agor Camlas Mynwy ac Aberhonddu.
Fe fydd cefnogwyr yn ail greu'r agoriad cyntaf yn 1812 ym Masin Pont-y-Moel a bydd clychau'r eglwys yn canu ar hyd y llwybr.
Cafodd y gamlas 49 milltir ei hadeiladu er mwyn cludo glo a dur ac mae'n llifo tua'r de o Aberhonddu i Gwmbrân, Casnewydd a Chwmcarn.
Erbyn hyn mae'n atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr ac yn gyrchfan gwyliau mewn cwch camlas.
Bydd y gloch yn canu am hanner dydd ym Masin Pont-y-Moel a fydd yn sbardun ar gyfer clychau eglwysi eraill ar hyd llwybr y gamlas i ganu.
Fe fydd tua 30 o eglwysi yn cymryd rhan.
'Sbardun'
Dywedodd Richard Dommett, rheolwr adfywio Ymddiriedolaeth Camlas Mynwy ac Aberhonddu a Chamlas Y Fenni, bod y gamlas yn ffynnu.
"Mae 'na nifer o gwmnïau yn cynnal gwyliau wythnosol yma ac mae nifer yn llogi cychod am y diwrnod yn ardal Aberhonddu," meddai.
"Mae'r gamlas yn cael ei chydnabod fel y sbardun ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol yn y trefi ger y llwybr."
Fe fydd plant ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y dathliadau yn ogystal.
"Mae'n wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i nodi'r achlysur hanesyddol yma," meddai cydlynydd y prosiect, David Morgan.