Ryan Giggs yn ymestyn ei gytundeb gyda Manchester United
- Published
Mae chwaraewr canol cae Manchester Uited, Ryan Giggs, wedi arwyddo cytundeb a fydd yn ymestyn ei gyfnod gyda'r clwb am flwyddyn arall.
Mae'n golygu y bydd y Cymro 38 oed yn mynd i chwarae am yr 22ain tymor yn Old Trafford.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ym mis Mawrth 1991.
Mae'n agosau hefyd at chwarae 900 o gemau dros y clwb.
Cyn gêm Manchester United adref yn erbyn Lerpwl ddydd Sadwrn mae Giggs wedi chwarae mewn 898 o gemau dros y tîm ac wedi sgorio 162 o goliau.
"Mae Ryan yn chwaraewr arbennig," meddai rheolwr Manchester United, Syr Alex Ferguson.
"Mewn sawl ffordd mae'n crynhoi fy holl dimau yma ac mae'n ail-ddarganfod ei hun yn gyson ac yn awchu am lwyddiant.
"Mae'n esiampl i bawb mewn pob sesiwn ymarfer a gêm."
Dywedodd Giggs nad oedd erioed wedi credu y byddai wedi chwarae i United am 22 mlynedd pan arwyddodd ei gytundeb cyntaf.
"Mae'n deimlad gwych a dwi'n gwybod y gallaf gyfrannu at ddymuniad y tîm i gael mwy o anrhydeddau.
"Roedd ennill teitl 19 y clwb yn deimlad gwych, ond mae'r clwb yn ymwneud â'r dyfodol a dwi'n falch o fod yn rhan o hynny."
Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn rhyngwladol yn 2007 ar ôl ennill 64 o gapiau.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Rhagfyr 2011
- Published
- 14 Mai 2011
- Published
- 30 Mai 2007