BBC Cymru Fyw

Caerdydd ar daith i Gaerlŷr

Published
image copyrightNot Specified
Mae rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, yn gobeithio y bydd Filip Kiss a Mark Hudson ar gael ar gyfer gêm yr Adar Gleision yng Nghaerlŷr ddydd Sadwrn.
Nid yw Hudson wedi chwarae ers anafu ei goes yn y fuddugoliaeth yn erbyn Portsmouth ar Ionawr 21, ac roedd Kiss ar goll o'r tîm gollodd i Blackpool y penwythnos diwethaf.
Mae'n debyg y bydd Kevin McNaughton ar gael hefyd, er iddo adael y maes yn erbyn Blackpool gydag anaf, ond mae Darcy Blake yn gobeithio ennill ei le yn y tîm hefyd.
Fe allai Kadeem Harris wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ar ôl trosglwyddiad o Wycombe Wanderers ym mis Ionawr.
Os fydd canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid, fe allai buddugoliaeth i Gaerdydd eu codi i'r ddau safle uchaf yn y bencampwriaeth - y ddau sy'n esgyn i'r Uwchgynghrair yn awtomatig.