Gwobr i bont hanesyddol

Pont Telpyn difrod Image copyright Other
Image caption Roedd Pont Telpyn wedi cael ei difrodi

Mae pont hanesyddol sydd wedi ei hatgyweirio gan Gyngor Sir Ddinbych wedi ennill gwobr.

Mae Pont Telpyn ym mhentref Rhewl ger Rhuthun tua 200 oed ac mae hi wedi ei chofrestru Gradd II.

Derbyniodd wobr Sefydliad Peirianwyr Sifil.

Roedd angen cryfhau'r bont sy'n cysylltu'r A525 yn Rhewl gyda'r B5429.

Ond yn ystod y gwaith cryfhau fe wnaeth Afon Clwyd sy'n llifo oddi tano orlifo'r glannau yn ystod llifogydd 2008.

O ganlyniad roedd mwy o ddifrod.

Yn ystod 2009 cafodd yr afon ei dargyfeirio oddi wrth y bont drwy system arbennig er mwyn cryfhau'r bwa.

Unigryw

Cafodd yr holl ddifrod ei adnewyddu ac mae bariau dur wedi eu gosod drwy'r gwaith carreg er mwyn ei chryfhau i safonau modern.

Cafodd traffig ddefnyddio'r bont unwaith eto yn 2009.

Image copyright Other
Image caption Fe wnaeth y bont ail agor yn 2009

"Roedd hwn yn gynllun unigryw a sawl her i'w goroesi," meddai Bob Humphreys, Rheolwr Pontydd Cyngor Ddinbych.

"Roedd yn llawer anoddach nac adeiladu pont newydd ond rydym wedi llwyddo i warchod darn bach o hanes Sir Ddinbych ar yr un pryd â sicrhau bod y bont yn cyrraedd y safonau diweddara."

Derbyniodd Mr Humphreys y wobr mewn seremoni yn Llundain.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.