Dathlu gwaith naddwraig a storïwr
- Published
Mae Amgueddfa Ceredigion yn cynnal arddangosfa o waith yr artist Mabel Pakenham-Walsh.
Bydd agoriad swyddogol arddangosfa o'i gwaith yn cael ei gynnal nos Sadwrn, Chwefror 11 am 7.30pm gyda pherfformiad gan y 'Goblin Doctors'.
Yn naddwraig, crefftwraig a drafftsmon sy'n byw yn Aberystwyth, mae Mabel hefyd yn adnabyddus fel storïwr.
Mae wedi rhoi ei harchif o gardiau post a llythyrau i Amgueddfa Ceredigion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â chasgliad o gerfiadau pren sy'n cael eu harddangos i'r cyhoedd yn barhaol yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys darluniau diweddar gan yr arlunydd a gemwaith alwminiwm cain, a bydd modd prynu'r rheini hefyd.
Wrth agor yr arddangosfa bydd Amgueddfa Ceredigion hefyd yn lansio catalog Mabel Pakenham-Walsh - 'Trem yn Ôl'.
Lluniwyd y catalog gyda chymorth Christine Szinner, ymchwilydd preswyl yn Ysgol Gelf Aberystwyth.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Gorffennaf 2011
- Published
- 6 Tachwedd 2011
- Published
- 7 Mehefin 2011
- Published
- 9 Gorffennaf 2010
- Published
- 10 Rhagfyr 2010