Y Gweilch a'r Gleision yn ennill

Image copyright Other
Image caption Stuart McInally (Caeredin) yn cael ei daclo gan Eli Walker (Gweilch)

Roedd cais gwefreiddiol gan Eli Walker yn ddigon i gipio buddugoliaeth oddi cartref i'r Gweilch yn erbyn Caeredin yn Murrayfield nos Wener.

Ond Caeredin sgoriodd y cais gyntaf pan groesodd Dougie Fife y llinell cyn i'r Gweilch daro gyda chais gan y bachwr Richard Hibbard.

Llwyddodd maswr Caeredin, Phil Goodman gyda thair cic gosb ond fe fethodd gyda throsgais.

Roedd y camgymeriad hwn yn gostus gan fod cais Walker a gôl adlam gan Biggar yn ddigon i gipio'r pwyntiau.

Caeredin: Chris Paterson, Tom Brown, Matt Scott , John Houston, Tim Visser, Phil Godman, Chris Leck, Kyle Traynor, Alun Walker, Jack Gilding, Grant Gilchrist, Sean Cox, Stuart McInally, Roddy Grant (capt), Netani Talei.

Eilyddion: Andrew Kelly, Robin Hislop, Ulises Gamboa, Esteban Lozada, Alan MacDonald, Alex Black, Gregor Hunter, Jim Thompson

Gweilch:Richard Fussell; Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Eli Walker; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i; Duncan Jones, Richard Hibbard, Joe Rees, Ian Gough, James King, Tom Smith (capt), Sam Lewis, Jonathan Thomas.

Eilyddion:Scott Baldwin, Ryan Bevington, Will Taylor, Alun Wyn Jones, Joe Bearman, Rhys Webb, Matthew Morgan, Sonny Parker.

Dyfarnwr: Leo Colgan (Iwerdddon)

Image copyright Other
Image caption Sam Hobbs sgoriodd unig gais y Gleision

Cipiodd Y Gleision y pwyntiau yn eu gêm ddiweddaraf yn erbyn Connacht yng nghystadleuaeth y Pro12 nos Wener.

Yr ymwelwyr sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf pan groesodd Tiernan O'Halloran y llinell.

Ond roedd y Gleision 15-10 ar y blaen ar yr egwyl yn dilyn pum cic gosb gan Ben Blair cyn i gais Sam Hobbs wedi 13 munud o'r ail hanner ymestyn mantais y tîm cartref.

Connacht sgoriodd gais ola'r gêm drwy Dave Moore.

Gleision: Ben Blair; Richard Mustoe, Casey Laulala, Gavin Evans, Tom James; Ceri Sweeney, Richie Rees; John Yapp, T Rhys Thomas, Sam Hobbs, Michael Paterson, Paul Tito (capten), Maama Molitika, Martyn Williams, Xavier Rush.

Eilyddion: Ryan Tyrell, Nathan Trevett, Ryan Harford, Cory Hill, Macauley Cook, Lewis Jones, Gareth Davies, Tom Williams.

Connacht: G Duffy (capten), F Vainikolo, K Tonetti, D McSharry, T O'Halloran, N O'Connor, P O'Donohoe; B Wilkinson, A Flavin, R Loughney, M Swift, M McCarthy, J Muldoon, R Ofisa, G Naoupu.

Eilyddion: E Reynecke, D Buckley, S Maguire, D Gannon, M Kearney, D Moore, M Jarvis, H Fa'afili.

Dyfarnwr: Andrew McMenemy (Yr Alban)

Image copyright Other
Image caption Sgoriodd Ruan Pienaar 15 pwynt i Ulster yn erbyn y Dreigiau nos Wener

Ildiodd y Dreigiau pedwar cais wrth golli i Ulster.

Llwyddodd Jason Tovey gyda chic gosb gynnar i'r ymwelwyr ond roedd Ulster ar y blaen 15-9 ar yr egwyl yn dilyn dau gais gan Robbie Diack a Ruan Pienaar.

Sgoriodd Craig Gilroy drydydd cais Ulster ar ôl 11 munud o'r ail hanner.

Er i'r Dreigiau bwyso am gyfnodau hir o'r gêm fe fethon nhw sgorio cais ond fe enillodd Ulster bwynt ychwanegol wedi i Stefan Terblanche groesi'r llinell - pedwerydd cais Ulster.

Ulster: Adam D'Arcy; Craig Gilroy, Ian Whitten, Paddy Wallace, Stefan Terblanche; Ian Humphreys, Ruan Pienaar; Callum Black, Andi Kyriacou, John Afoa (capt); Lewis Stevenson, Dan Tuohy; Michael McComish, Willie Faloon, Robbie Diack.

Eilyddion: Nigel Brady, Paddy McAllister, Adam Macklin, Tim Barker, Ali Birch, Paul Marshall, Nevin Spence, Simon Danielli.

Dreigiau: Martyn Thomas; Jamie Smith, Adam Hughes, Ashley Smith (capt), Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Nathan Williams, Steve Jones, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Jevon Groves, Darren Waters, Gavin Thomas.

Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Dan Way, Hugo Ellis, Tom Brown, Joe Bedford, Andy Tuilagi, Lewis Robling.

Dyfarnwr: Carlo Damasco (Yr Eidal)

Safle Gemau Enillwyd Cyfartal Pwyntiau Bonws Cyfanswm
1. Leinster 14 12 0 5 53
2. GWEILCH 14 10 1 1 43
3. Glasgow 14 8 2 3 39
4. Munster 13 8 0 6 38
5. Ulster 14 8 0 4 36
6. GLEISION 13 7 0 7 35
7. SCARLETS 14 7 1 4 34
8. Treviso 14 6 0 4 28
9. Caeredin 14 4 1 5 23
10. Connacht 14 3 0 6 18
11. DREIGIAU 13 3 1 3 17
12. Aironi 13 3 0 2 14

Dydd Sadwrn, Chwefror 11

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.