Y Seintiau Newydd a Brychdyn yn fuddugol

  • Cyhoeddwyd
Uwchgyngrhair CymruFfynhonnell y llun, Not Specified

Mae buddugoliaeth rwydd i'r Seintiau Newydd nos Wener yn golygu eu bod dim ond un pwynt y tu ôl i Fangor ar frig Uwchgynghrair Cymru.

Aeron Edwards sgoriodd gôl gyntaf y Seintiau Newydd yn erbyn Prestatyn a dyblodd yr ymwelwyr eu mantais tair munud cyn yr egwyl pan rwydodd Tom Roberts.

Sgoriodd Alex Darlington drydedd gôl Y Seintiau Newydd ar ôl 49 munud a rhwydodd Darlington eto gyda chic o'r smotyn 18 munud yn ddiweddarach i selio'r fuddugoliaeth.

Cafodd Y Drenewydd cweir gan ildio pedair gôl i Airbus UK Brychdyn.

Nev Thompson sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf wedi 38 munud ond agorwyd y llifddorau yn yr ail hanner wrth i Mike Hayes (49 munud), James Connelly (74 munud) a Jon Bathurst (85 munud) selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Lido Afan gipiodd y tri phwynt yn dilyn gêm agos yn erbyn Phort Talbot.

Martin Rose sgoriodd gôl gynta'r gêm i Bort Talbot wedi 17 munud ond fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal 13 munud yn ddiweddarach.

Leon Jeanne gipiodd y pwyntiau i Lido Afan gyda dim ond dwy funud o'r gêm yn weddill.

CANLYNIADAU

Nos Wener

Port Talbot 1 Lido Afan 2

Prestatyn 0 Seintiau Newydd 4

Y Drenewydd 0 Airbus UK Brychdyn 4

Dydd Sadwrn

Llanelli v Bangor (2.30pm)

Aberystwyth v Caerfyrddin (3.45pm)

Dydd Sul

Castell-nedd v Y Bala (2.30pm)

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU

Chwefror 10 2012

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol