Damwain: Pump wedi'u hanafu
- Cyhoeddwyd
Cafodd pump o bobl eu hanafu yn dilyn damwain difrifol ger Caernarfon.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd annosbarthedig rhwng Bontnewydd a Rhostryfan yng Ngwynedd.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru roedd gwrthdrawiad rhwng tractor a dau gar toc wedi 6pm ddydd Gwener.
Cafodd tair injan dân eu hanfon i leoliad y gwrthdrawiad ond cafodd un ei galw nôl pan ddaeth i'r amlwg nad oedd angen torri unrhyw un yn rhydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol