BBC Cymru Fyw

Stockport 2-2 Casnewydd

Published
image copyrightOther

Stockport 2-2 Casnewydd

Ergyd Jake Harris dri munud o'r diwedd wnaeth achub pwynt i Gasnewydd oddi cartref yn Stockport.

Gorffennodd Casnewydd y gêm gyda 10 dyn, ar ôl i Andy Sandell gael ei anfon o'r cae.

Aeth Stockport ar y blaen drwy gôl Danny Rowe.

Ergyd Sandell o ymyl y blwch cosbi ddaeth â Chasnewydd yn gyfartal.

Ond cafodd ei anfon o'r cae am ddefnyddio ei benelin ar Sean McConville.

Ar ôl i Rowe sgorio gyda chic rydd roedd hi'n edrych fel taw'r tîm cartref fyddai'n ennill - ond llwyddodd Harris i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr.

Y gêm rhwng Stockport a Chasnewydd oedd yr unig un i gael ei chwarae yng nghynghair Blue Square Bet ddydd Sadwrn.

Cafodd y gweddill gan gynnwys Darlington yn erbyn Wrecsam eu gohirio oherwydd y tywydd.

Straeon perthnasol

  • Wrecsam: Cadarnhau cytundeb