Caerlŷr 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Caerlŷr 2-1 Caerdydd
Ar ôl rhediad diguro o naw gêm roedd gobeithion Caerdydd yn uchel wrth deithio i Gaerlŷr.
Ond y tîm cartref oedd gryfaf, diolch i ddwy gôl gan Paul Gallagher.
Daeth y cyntaf o'r smotyn ar ôltacl flêr gan Haris Vuckic ar Richie Wellens.
Aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen gydag ergyd Gallagher o gic rydd ar ôl 71 munud.
Llwyddodd Peter Whittingham i leihau'r bwlch i un gôl ar ôl cic o'r smotyn gyda 13 munud yn weddill.
Ond methodd Caerdydd a gwneud gwir argraff, a Chaerlŷr drwy Nugent ddaeth agosaf at sgorio.
Caerlŷr: Schmeichel, Peltier, Konchesky, Mills, St. Ledger, Dyer (Marshall - 71' ), Drinkwater, Wellens, Gallagher (Howard -90), Beckford, Nugent
Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Gerrard, Turner, Whittingham, Cowie, Conway, Gunnarsson (Kiss - 7' ), Vuckic (Gestede - 46' ) Miller.