Llofruddiaeth Bangor: Arestio pedwar
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu yn Sgwâr Britannia
Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio pedwar o bobl ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn farw ym Mangor, Gwynedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Sgwâr Britannia ym Mangor uchaf tua 3am fore Sul.
Fe wnaeth parafeddygon gadarnhau fod dyn 43 oed wedi marw.
Mae dau ddyn a dwy ddynes wedi eu harestio.