Damwain farwol
- Published
Bu farw cerddwr ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char yn Abertawe fore Sul.
Dywed Heddlu'r De fod car arian Subaru Impreza wedi bod mewn gwrthdrawiad a cherddwr ar Ffordd Fabian tua 12.40am
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy.
Dyw'r heddlu heb ryddhau unrhyw fanylion am y cerddwr a fu farw.
Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y ddamwain gysylltu â Heddlu'r De ar 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555111.