Apêl wedi lladrad arfog mewn tafarn

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl lladrad arfog mewn tafarn yng ngogledd Cymru.

Roedd pump o ddynion yn gwisgo mygydau - un gyda morthwyl ac un arall â charn tro olwynion - wedi bygwth gweithwyr yn nhafarn y Bells of St Mary's, yng Ngronant, Sir y Fflint.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru na chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad am 11pm ddydd Sul.

Llwyddodd y lladron i ddianc gyda swm sylweddol o arian.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.