Pryder am 'daliadau diswyddo' i swyddogion AWEMA

  • Cyhoeddwyd
Logo AwemaFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd arian cyhoeddus ei atal i'r elusen ar ôl i ymchwiliad ganfod "methiannau sylweddol a sylfaenol"

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi gofyn am sicrwydd na fydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i dalu swyddogion elusen wedi honiadau o gamreoli ariannol.

Dywedodd Bethan Jenkins fod ffynonellau'n gysylltiedig ag AWEMA wedi mynegi pryderon y gallai swyddogion dderbyn "taliadau diswyddo" wrth i weithgareddau'r sefydliad ddirwyn i ben.

O ystyried maint y camreoli, ddaeth i'r amlwg yn adroddiad Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Loteri Fawr, mae Ms Jenkins wedi dweud y byddai'n "hollol warthus" i'r rhai oedd yn gyfrifol dderbyn mwy o arian cyhoeddus.

Hi yw Aelod Cynulliad dros Dde Orllewin Cymru ble mae AWEMA wedi ei lleoli.

'Gwarant'

"Mae pobl sy'n gysylltiedig â'r elusen wedi codi pryderon y bydd y sawl fu yng nghanol honiadau o gamreoli ariannol yn AWEMA nawr yn derbyn taliadau diswyddo wrth i'r elusen gael ei dirwyn i ben.

"All hi ddim bod yn iawn i unrhyw arian cyhoeddus gael ei roi allan fel hyn. Ni ddylid caniatáu i'r sawl fu'n gyfrifol am y camreoli ariannol dderbyn mwy o arian y trethdalwyr.

"Rwyf wedi gofyn i Weinidog Cyllid Cymru am warant hollol bendant na fydd unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei roi i'r bobl hynny sydd ynghlwm wrth y mater oni phrofir yn gyntaf eu bod yn hollol ddieuog o unrhyw gamwedd."

Adolygiad

Roedd adroddiad damniol am elusen lleiafrifoedd ethnig fwyaf amlwg Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwetha', wedi dod i'r casgliad bod 'na wendidau amlwg yn y modd y cafodd ei rheoli.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol i'r arian mae'r elusen wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd ac fe fydd y Comisiwn Elusennau hefyd yn cynnal ymchwiliad.

Cafodd arian cyhoeddus ei atal i'r elusen ar ôl i ymchwiliad ganfod "methiannau sylweddol a sylfaenol".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol