Dyn yn gwadu llofruddio ei dad-cu Pwylaidd
- Cyhoeddwyd

Roedd Jerzy Dubiniec yng Nghasnewydd i rannu ei wybodaeth am bobi
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys i wadu cyhuddiad o lofruddio'i dad-cu Pwylaidd oedd yn ymweld â theulu a ffrindiau ym Mhrydain.
Mae Gavin Mills, 25, wedi ei gyhuddo o ladd Jerzy Dubiniec, 60 oed, oedd ar ymweliad byr â Chasnewydd.
Cafwyd hyd i gorff Mr Dubiniec a oedd yn bobydd, ar Broad Street yn ardal Pilgwenlli yn ystod oriau mân y bore, Awst 20, 2011.
Credir i rywun ymosod arno cyn iddo gael ei daro gan gar.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd y bydd yr achos yn erbyn Mr Mills yn dechrau ym mis Gorffennaf.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol