Adfer lluniau a dogfennau carcharorion o’r 19eg ganrif

Llyfr lluniau carcharorion Dinbych Image copyright Other
Image caption Roedd y dyn hwn wedi cael ei ddedfrydu am ladrata

Mae lluniau prin o garcharorion ac ewyllysiau'r bonedd ymhlith deunydd sy'n cael ei adfer.

Nid yw rhai o'r dogfennau wedi bod ar gael i'r cyhoedd oherwydd eu cyflwr bregus ond oherwydd gwaith cadwraeth bydd cyfle i bobl eu gweld.

Bydd £30,000 o grantiau yn talu am y chwe phrosiect adfer.

Dywedodd Jayne Brunning, uwcharchifydd yn Swyddfa Cofnodion Sir Dinbych yn Rhuthun, fod y llyfrau'n cynnwys lluniau carcharorion ymhlith y rhai hynaf o'u bath yng Nghymru.

Maen nhw'n dyddio'n ôl i'r 1860au a'r 1890au ac yn llawn o ddisgrifiadiau lliwgar o droseddwyr.

Roedd y llyfrau yn eiddo i Heddlu Sir Dinbych.

Dywedodd Ms Brunning fod y lluniau o "gymorth mawr wrth ddal troseddwyr".

Cadw'r arian

Er mai lluniau a disgrifiadau o ddynion sy'n llenwi'r rhan fwya o'r llyfrau, maen 'na rai o ferched, gan gynnwys un honnodd ei bod yn casglu ar gyfer elusennau ond wedi cadw'r arian.

Image copyright Other
Image caption Mae dros 70 o ddogfennau o gasgliad teulu’r Mostyn yn cael eu hadfer

Mae Mark Allen o Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint wedi helpu adfer dogfennau oedd yn eiddo i deulu'r Mostyn, gan gynnwys ewyllys gwreiddiol William Mostyn o 1640.

Roedd y teulu'n flaenllaw ymhlith boneddigion Gogledd Cymru yn y 14eg ganrif ac mae ganddyn nhw gysylltiadau agos gyda thref Llandudno.

Rhaid i Mr Allen ddefnyddio sawl brwsh arbennig i lanhau'r llawysgrifau yn ogystal â golchi a sychu'r dogfennau er mwyn cael gwared ag unrhyw grychiau.

Cyfle

Mae'r prosiectau yn cael eu hariannu yn sgil partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru trwy CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru a'r Ymddiriedolaeth Gadwraeth Llawysgrifau.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, fod y prosiectau'n gyfle i bobl o bob oedran ddod i weld y dogfennau.

Ymhlith gwaith cadwraeth y prosiectau eraill y mae darluniau o Gwilym Goncwerwr a Hywel Dda o archifau Sir Gaerfyrddin, llyfrau plwyfi Gwynedd a chynlluniau ar gyfer gweithfeydd haearn Abaty Castell-nedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.