Amser ychwanegol i holi pedwar wedi llofruddiaeth

Kelvin Jones Image copyright Other
Image caption Cafodd corff Kelvin Jones ei ddarganfod fore Sul

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael amser ychwanegol i holi pedwar o bobl mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 43 oed ym Mangor.

Cafodd y ddau ddyn a'r ddwy ddynes eu harestio ddydd Sul ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i gorff Kelvin Jones o Ynys Môn gael ei ddarganfod yn Sgwâr Britannia ym Mangor Uchaf tua 3am y diwrnod hwnnw.

Nos Lun cafodd swyddogion wybod bod ganddyn nhw 36 awr ychwanegol i holi'r pedwar.

Dywedodd yr Arolygydd Simon Barraford: "Rydym yn parhau i wneud ymholiadau o ddrws i ddrws ac rydym hefyd yn cynnal archwiliad fforensig o'r tŷ yn Sgwâr Britannia.

"Rwyf hefyd yn galw am gymorth y cyhoedd ac yn galw ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn ardal Sgwâr Britannia i gysylltu â ni cyn gynted â phosib."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.