Cynghorau Abertawe, Caerffili a Sir Fynwy yn bwriadu rhewi treth y cyngor

John Davies Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption John Davies: Yn hapus fod cynnydd rhagweladwy treth y cyngor mor isel â phosib

Hyd yn hyn dim ond cynghorau Abertawe, Caerffili a Sir Fynwy sydd wedi dweud nad ydyn nhw am godi lefel treth y cyngor y flwyddyn ariannol nesaf.

Hon yw'r ail flwyddyn yn olynol i gynghorau Caerffili a Sir Fynwy beidio â newid lefel treth y cyngor.

Cyngor Sir Ynys Môn sy'n anelu at y codiad mwyaf yn nhreth y cyngor (5%), y raddfa uchaf bosib, tra bod 14 cyngor arall wedi dweud eu bod am godi'r dreth ond heb benderfynu'r lefel eto.

Dywedodd Stuart Rice, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am gyllid, fod rhewi'r dreth yn bosib am nad oedd cynilion y cyngor yn effeithio ar wasanaethau llinell flaen.

"Rydyn ni'n cydnabod fod pobl yn cael amser caled ar hyn o bryd - dydyn ni ddim am ychwanegu at eu baich ariannol," meddai.

"Mae biliau teuluoedd yn dal i gynyddu wrth i gyflogau leihau neu gael eu rhewi.

"Rydyn ni wedi cyflwyno'r cynnig a gwarchod a buddsoddi mewn gwasanaethau llinell flaen."

Byddai trethdalwyr Band D y sir yn talu £990.91 am wasanaethau os yw cynghorwyr yn cymeradwyo o fewn wythnosau.

Canmol

Canmolodd Colin Mann, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili sy'n gyfrifol am adnoddau ariannol, ei gyngor am lewi treth y cyngor unwaith eto.

"Rydyn ni wedi cael cefnogaeth anferth gweithwyr yr awdurdod sydd wedi gwneud pob ymdrech i leihau cost cyflenwi a chynnal gwasanaethau ac arbed £17 miliwn mewn tair blynedd.

"Mae fy nghyd-weithwyr yn y cabinet wedi gweithio'n galed i arbed arian a dargyfeirio arian i'r meysydd sydd mwyaf eu hangen."

Dywedodd Cyngor Sir Fynwy na fyddai cyfarfod gosod lefel y dreth tan fis Mawrth.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Carl Sargeant: Dosbarthu Grant Cynnal Refeniw fel bod modd rhewi treth y cyngor

"Yr unig gynnydd y gallai trigolion ei wynebu yw cynnydd y tâl sy'n ddyledus i'r awdurdod heddlu neu gynghorau cymunedol."

Ar gyfartaledd cododd treth y cyngor 3% yng Nghymru y llynedd.

'Teg a phwyllog'

Mae Ynys Môn am godi treth y cyngor 5% oherwydd "setliad llai gan Lywodraeth Cymru" tra bod Cyngor Conwy yn ystyried codi treth y cyngor 4%.

Dywedodd Andrew Kirkham o Gyngor Conwy: "Mae'r cyngor yn falch o'n treth cyngor isel ond mae'n rhaid i'n gwasanaethau dalu'r pris am hyn.

"Rydyn ni wedi gorfod arbed arian yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond rydyn ni wedi gwneud hynny mewn ffordd deg a phwyllog."

Dywedodd y byddai codi treth y cyngor 4% yn golygu y byddai pobl Band D yn gorfod talu £884.61, un o'r trethi lleiaf yng Nghymru a Lloegr.

"Rydyn ni eisoes yn ystyried mwy o gynilion ond rwy'n gwybod yn fy nghalon nad ydyn ni'n gallu rhewi treth y cyngor," meddai.

Mae cynghorau Ceredigion, Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam yn bwriadu codi treth y cyngor rhwng 2.2% a 3.9%.

'Blwyddyn etholiad'

Amddiffynnodd Jeff Edwards, Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, y bwriad i godi treth y cyngor 2.2% yn 2012-13 o'i gymharu â 3.2% yn 2011-12.

"Yn wahanol i awdurdodau lleol eraill sydd wedi gostwng eu trethi i ddim mewn blwyddyn etholiad, dwi ddim yn credu bod hyn yn gall nac er lles yr awdurdod na'r etholwyr yn y tymor hir," meddai.

"Hefyd byddai codi treth yn fwy o faich ariannol ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd."

Dyw cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Dinbych, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg heb gyhoeddi eu cynlluniau eto.

Image caption Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn debygol o benderfynu lefelau treth y cyngor yn ystod y mis nesaf

Ar hyn o bryd nid yw holl fanylion treth y cyngor yn cynnwys y tâl sy'n ddyledus i'r awdurdod heddlu.

Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies ei fod yn hapus fod cynnydd rhagweladwy treth y cyngor mor isel â phosib.

'Codi pwysau'

Roedd hyn, meddai, yn adlewyrchu "gwaith caled awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau hollbwysig a chodi pwysau oddi ar ysgwyddau teuluoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n croesawu bod awdurdodau lleol yn rhagweld y cynnydd isaf erioed o ran treth y cyngor yn 2012-13.

"Mae lefelau treth y cyngor ar gyfartaledd 19% yn llai yng Nghymru nag yn Lloegr ac mae hyn yn adlewyrchu setliad ariannol gwell Llywodraeth Cymru ..."

Ym mis Hydref dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, y byddai'n dosbarthu'r Grant Cynnal Refeniw fel bod modd i gynghorau rewi treth y cyngor os oedden nhw'n dymuno hynny - dim ond iddyn nhw warchod gwasanaethau llinellau flaen.

"O ran treth y cyngor fe fydd rhaid i bob awdurdod lleol gyfiawnhau eu penderfyniadau i'w dinasyddion," meddai.

"Rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol ystyried yn fanwl y cydbwysedd rhwng yr angen i gynnal gwasnaethau allweddol a'r angen i leihau unrhyw bwysau ychwanegol ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol.

"Rwy'n barod i ddefnyddio pwerau capio gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar unrhyw gynnydd rwy'n ystyried yn afresymol."

Cynnydd Treth y Cyngor arfaethedig 2012-13 (Elfen yr awdurdod lleol yn unig)
Awdurdod Band D 2011-12 Cynnyddarfaethedig Band D 2012-13 (arfaethedig)
Ynys Môn £885.07 5% £929.32
Gwynedd £1,027.32 3.5% £1,063.28
Conwy £879.29 4% £914.46
Dinbych £1,060.69 Dim penderfyniad Dim penderfyniad
Sir y Fflint £941.34 3% £969.58
Wrecsam £926.08 2.69% £950.99
Powys £948.49 2.25% £969.83
Ceredigion £943.46 3% £971.76
Penfro £733.74 1.7% £746.21
Caerfyrddin £998.50 1.97% £1,018.17
Abertawe £1,000.30 0% £1,000.30
Castell-nedd Port Talbot £1,222.38 Dim penderfyniad Dim penderfyniad
Pen-y-bont ar Ogwr £1,126.69 Dim penderfyniad Dim penderfyniad
Bro Morgannwg £962.00 Dim penderfyniad Dim penderfyniad
Rhondda Cynon Taf £1,141.83 2.49% £1,170.26
Merthyr Tudful £1,181.67 2.2% £1,207.67
Caerffili £907.33 0% £907.33
Blaenau Gwent £1,238.20 2.6% £1,270.39
Torfaen £991.94 2.35% £1,015.25
Mynwy £1,036.43 0% £1,036.43
Casnewydd £806.55 2.9% £829.94
Caerdydd £924.88 1.4% £937.83
Cyfanswm £979.29 2.1% £999.86
Ffynhonnell: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.