Canfod corff wedi tân mewn carafán yn Llangollen
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff dyn yn y garafán yn Llangollen
Cafodd corff ei ganfod ar ôl tân mewn carafán yn Llangollen.
Derbyniodd y gwasanaethau brys alwad ffôn am 11.11pm nos Lun i barc carafanau yn Ffordd Yr Abaty.
Aeth dau griw o Langollen a chriw o'r Waun i'r safle.
Cafwyd hyd i gorff dyn yn y garafán.
Credir ei fod yn ei 40au.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol