Tlws John a Ceridwen Hughes i gwpl o Fangor
- Cyhoeddwyd

Gŵr a gwraig o Fangor sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes 2012, y wobr flynyddol am "gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru".
Cafodd Bryn a Marian Tomos eu henwebu gan aelodau'r Urdd a rhieni'r ardal am eu bod yn cynnal Uwchadran ac Aelwyd Bangor bob wythnos ers 2004.
Bellach mae dros 80 o blant yn mynd i'r Uwchadran a mwy na 35 yn aelodau yn yr Aelwyd.
Cafodd y ddau wybod am eu llwyddiant mewn digwyddiad arbennig.
"Mi gawsom ni dipyn o sioc pan gawson ni wybod ein bod ni wedi ennill," meddai Marian.
'Mwynhau'
"Roedden ni'n gwybod bod 'na barti i ddathlu pen-blwydd yr Urdd ond doedden ni ddim yn disgwyl gweld y teulu - y ferch Catrin wedi dod lawr o Brifysgol Newcastle, rhieni'r ddau ohonon ni - a'r holl bobl oedd yna.
"Mi oedd yn anhygoel.
"Mae'n andros o anrhydedd a dydy rhywun ddim yn gwneud y gwaith bob wythnos er mwyn derbyn diolch na chlod - rydyn ni'n ei wneud am ein bod ni'n mwynhau ei wneud o.
"Mae meddwl bod yr holl bobl 'ma wedi meddwl ein bod ni'n haeddu gwobr am y gwaith yn anhygoel.
"Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ein henwebu ni ac am y pethau caredig maen nhw wedi ei ddweud.
"Mae'n cymryd amser i ddod i arfer ein bod wedi ennill."
Un o'r rhai enwebodd y ddau oedd Yr Athro Gerwyn Williams. "Fu'r wireb 'os am rywun i wneud rhywbeth, yna gofynnwch i berson prysur' erioed yn fwy priodol nag yn achos y cwpl cymwynasgar yma," meddai.
'Hollbwysig'
"Mae eu cyfraniad yn hollbwysig at gynnal Cymreictod ymhlith pobl ifanc Bangor a'r cylch.
"A'r hyn sydd yn denu'r bobl ifanc yw'r arlwy amrywiol ac eang - o sesiwn rapio gydag Ed Holden i noson paratoi cardiau Nadolig, o sesiwn sgïo i noson ddawnsio gwerin."
Dywedodd Gruff Pari sydd ym Mlwyddyn 9 Ysgol Tryfan: "Rwyf yn mynd i Uwchadran Bangor bob nos Iau ac yn mwynhau cael cyfle i weld fy ffrindiau ar ôl ysgol mewn amgylchedd braf.
"Mae Bryn yn ddyn trefnus ac mae gwahanol weithgareddau difyr yn cael eu trefnu ar gyfer y nosweithiau, gan gynnwys gemau, bandiau byw, siaradwyr gwadd a chwaraeon.
"Er bod nifer fawr o blant yn dod i'r uwchadran mae Bryn yn llwyddo i gadw trefn heb godi ei lais ormod. "Dwi'n edrych ymlaen at nos Iau bob wythnos."
'Amhrisiadwy'
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, mae cyfraniad y ddau'n amhrisiadwy.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar am eu gwaith diflino yn ardal Bangor.
"Maen nhw'n cynnig cyfleoedd heb eu hail yn wythnosol i'r bobl ifanc ac mae'r nifer sydd yn mynychu yn brawf o'r mwynhad mae'r plant yn ei gael.
"Hefyd mae'n wych fod cwpl o Eryri wedi ennill gyda'r Eisteddfod yn dod i Lynllifon ym mis Mehefin."
Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 rhwng Mehefin 4 a 9.