Rhybudd am golli swyddi

Mae ffatri yn Y Trallwng sy'n cynhyrchu cydrannau ceir wedi rhybuddio y gallai swyddi ddiflannu oherwydd "sefyllfa economaidd anodd".

Y llynedd anfonodd Shimizu weithwyr dros dro adref a chyhoeddi y byddai hyd at 30 o swyddi'n diflannu.

Mae rheolwr gyfarwyddwr Prydeinig y cwmni, Kenji Sakamaki, wedi dweud: "Mae angen i ni ailstrwythuro.

"Mi allai hyn olygu bod nifer o swyddi parhaol yn diflannu."

Mae'r ffatri, sy'n cynhyrchu cydrannau ar gyfer Honda, Toyota a Caterpiller, yn cyflogi mwy na 170 a chanddi drosiant o fwy na £17m.