Norofirws yn Ysbyty Gwynedd: Cyngor i ymwelwyr
- Published
Oherwydd achosion Norofirws mae bwrdd iechyd wedi gofyn i ymwelwyr ail-feddwl cyn ymweld â wardiau yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr "Y lle delfrydol i'r firws hwn ledu ydy unrhyw fan lle mae nifer fawr o bobol yn dod at ei gilydd.
"Dyma'r rheswm pam bod yr afiechyd yn arbennig o gyffredin mewn ysbytai.
"Gan fod y firws yn lledu'n hawdd o un unigolyn i un arall, rydym yn gobeithio rheoli a chael gwared â'r firws drwy ofyn i bobl ymweld dim ond pan fo wirioneddol raid ac osgoi cyswllt rhwng cymaint o bobl â phosib tan o leiaf 48 awr wedi i'r symptomau glirio."
Os yw'r ymweliad yn angenrheidiol, meddai'r bwrdd iechyd, dylai unigolyn aros am o leiaf 48 awr os yw wedi cael symptomau chwydu neu ddolur rhydd.
Golchi dwylo
Y cyngor yw dim mwy na dau ymwelydd wrth ochr gwely'r claf ar unrhyw adeg, na ddylai ymwelwyr ddod â babis bach neu blant ar y wardiau ac y dylai ymwelwyr bob amser olchi eu dwylo gyda dŵr a sebon cyn dod i mewn i'r ward a chyn gadael.
Dywedodd y bwrdd iechyd y dylai ymwelwyr bob amser eistedd ar gadeiriau ac nid ar welyau ac y dylen nhw olchi eu dwylo bob tro ar ôl bod yn y toiled.
Prif symptomau'r haint yw teimlo'n gyfoglyd yn sydyn, poen stumog ac yna chwydu "hyrddiol" drwg a neu ddolur rhydd.
Diffyg hylif
Efallai hefyd y bydd ychydig o wres, cur pen, cramp yn y stumog a breichiau a choesau poenus.
Fel arfer bydd y symptomau'n dechrau rhwng 12 - 48 awr wedi i'r unigolyn ddal yr haint.
Mae'r rhan fwyaf o bobl iach yn gwella mewn un i dri diwrnod. Fodd bynnag, gall plant ifanc a phobl hŷn ddioddef cymhlethdodau a'r un mwyaf aml ydy diffyg hylif.
Gall y symptomau bara rhwng 12 a 60 awr.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Ionawr 2012
- Published
- 3 Ionawr 2012
- Published
- 19 Rhagfyr 2011