Prif hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, yn gadael

Sean Holley Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Sean Holley wedi bod gyda'r Gweilch ers sefydlu'r rhanbarth

Mae BBC Cymru yn deall y bydd Sean Holley, Prif Hyfforddwr y Gweilch, yn gadael.

Eisoes mae'r clwb yn cynllunio oherwydd bod Scott Johnson, y cyfarwyddwr hyfforddi, yn ymuno â thîm hyfforddi'r Alban ddiwedd y tymor.

Roedd Holley yn gynorthwy-ydd cyn-reolwr y Gweilch, Lyn Jones, pan sefydlwyd y rhanbarth yn 2003.

Dyw'r Gweilch ddim wedi gwneud sylw am ddyfodol Holley y mae ei gytundeb yn golygu bod dwy flynedd a hanner ar ôl.

Pan adawodd Jones ym mis Mai 2008, Holley a chyn-gapten Cymru Jonathan Humphreys, oedd yn gyfrifol am Y Gweilch.

Mae Humphreys yn dal gyda'r clwb ac yn cynorthwyo Holley a Johnson i hyfforddi'r blaenwyr.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.