Cadw dyn 42 oed yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Kelvin Jones ei ddarganfod fore Sul
Roedd dyn 42 oed yn Llys Ynadon Caernarfon fore Mercher wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn ym Mangor dros y penwythnos.
Mae David Anthony Swift, heb gyfeiriad sefydlog, yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Bu farw Kelvin Jones, 43 oed ac yn wreiddiol o Ynys Môn, ym Mangor Uchaf wedi ymosodiad yn Sgwâr Britannia yn gynnar fore Sul.
Cafwyd hyd i'w gorff am 3am.
Mae dyn 36 oed a dynes 27 oed gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau'n ddi-gyhuddiad.
Mae dynes 25 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol