Cynllun amddiffyn: Arddangosfa gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal yn Nhywyn i godi ymwybyddiaeth am y gwaith diogelwch llifogydd a gwblhawyd yn y dref y llynedd.
Bydd yr arddangosfa yn Neuadd Pendre yn y dref hefyd yn darparu gwybodaeth am effaith y llifogydd ar yr ardal.
Cwblhaodd Cyngor Gwynedd y gwaith ar y cynllun amddiffyn yr arfordir gwerth £7.6 miliwn.
Ariannwyd y cynllun, sydd wedi lleihau'r risg o lifogydd blynyddol, i oddeutu 80 eiddo yn yr ardal gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.
Effeithiau llifogydd
Bydd yr arddangosfa gyhoeddus tan 4pm ddydd Mercher yn galluogi aelodau'r cyhoedd i weld dyluniadau a lluniau o'r cynllun amddiffyn yr arfordir.
Bydd peirianwyr o Adran Ymgynghoriaeth y cyngor hefyd wrth-law i drafod y prosiect ynghyd â'r risg gweddilliol o lifogydd yn yr ardal.
Yn ogystal, bydd swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru hefyd yn mynychu i ddarparu cyngor i aelodau'r cyhoedd am effeithiau llifogydd.
Bydd cynrychiolwyr o gorff y diwydiant adeiladu 'Construction Skills' hefyd yn rhan o'r digwyddiad i roi cyngor i unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y posibilrwydd o ddilyn gyrfa yn y diwydiant.
Straeon perthnasol
- 11 Mai 2010
- 27 Ionawr 2010