Oerfel: Menyw o'r Coed Duon yn yr ysbyty

Mae'r heddlu wedi dweud bod menyw'n ddifrifol iawn yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Roedd y fenyw 51 oed o'r Coed Duon wedi mynd ar goll nos Sul a daethpwyd o hyd iddi tu ôl siopau Heol Fawr y dre am 4.50am fore Llun.

Roedd hi'n diodde o effeithiau'r oerfel.