Ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cael ei hadeiladu ar dir gyferbyn Ysgol Uwchradd y Drenewydd wedi i Gabinet Cyngor Sir Powys gymeradwyo'r cynnig.
Fe fydd lle i 270 o ddisgyblion yn yr ysgol er mwyn ateb y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hayes, Aelod Cabinet Addysg a Hamdden: "Mae'r galw am addysg Gymraeg yn tyfu'n gyflym ac mae Ysgol Dafydd Llwyd nid yn unig yn llawn ond mae'r corff arolygu, Estyn, wedi cyfeirio at broblemau yn yr adeiladau."
Mae llywodraethwyr Ysgol Dafydd Llwyd wedi croesawu'r newyddion.
Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Daniel Owen: "Mae hwn yn benderfyniad arwyddocaol ac yn cadarnhau'r galw anferth am addysg Gymraeg yn ardal Y Drenewydd."
Yn 2002, meddai, cafodd Ysgol Dafydd Llwyd ei sefydlu, yr unig ysgol Gymraeg ddynodedig yng ngogledd Powys.
"Mi fydd yr ysgol newydd ar gyfer y ganrif hon yn golygu bod holl waith caled disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr wedi dwyn ffrwyth."