Caerdydd 3-1 Peterborough
- Cyhoeddwyd

Caerdydd 3-1 Peterborough
Cododd Caerdydd i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Peterborough yn Stadiwm Caerdydd nos Fawrth.
Sgoriodd yr Adar Gleision dair gwaith mewn cyfnod o chwe munud yn ystod yr hanner cyntaf.
Yn dilyn hanner awr agoriadol diflas sgoriodd Peter Whittingham gôl gyntaf Caerdydd ar ôl rhwydo â chic gornel ei hun gan achosi tipyn o embaras i gôl-geidwad yr ymwelwyr, Joe Lewis.
Sgoriodd Rudy Gestede ail gôl yr Adar Gleision bedair munud yn ddiweddarach pan rwydodd gyda'i ben ac roedd yr ornest ar ben pan sgoriodd Haris Vuckic y drydedd gôl chwe munud cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Sgoriodd Paul Taylor gôl gysur i'r ymwelwyr ym munud ola'r gêm.
Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Gerrard, Turner, Whittingham, Cowie, Gunnarsson, Vuckic, Miller, Gestede.
Eilyddion: Parish, Kiss, Conway, Blake, Mason
Peterborough: Lewis, Briggs, Bennett, Zakuani (Little 45), Alcock, McCann, Rowe, Frecklington, Ball, Boyd, Taylor,
Eilyddion: Jones, Little, Tunnicliffe, Tomlin, Sinclair