Casnewydd 1-0 Caerfaddon

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Roedd gôl gan Lee Minshull yn ddigon i alluogi Casnewydd i guro Caerfaddon yn eu gêm ddiweddaraf yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ym Mharc Spytty nos Fawrth.

Sgoriodd Minshull i'r Alltydion wedi 11 munud o'r ornest ar ôl gwaith da gan Ryan Charles.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod tîm Justin Edinburgh yn awr yn yr 18fed safle yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Fleetwood 31 34 70
2.WRECSAM 30 36 68
3. Luton 31 32 59
4. Southport 32 -3 55
5. Caerfrog 31 29 54
-----------------------------------------------------------------------------------------
18.CASNEWYDD 31 -8 30
21 Kettering 31 -36 28
22.Alferton 31 -29 25
23. Hayes a Yeading 31 -24 24
24. Caerfaddon 31 -34 18

Chwefror 14 2012.