Gêm gyfeillgar i Gymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina

Gêm gyfartal gafodd Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn 2003 Image copyright Getty Images
Image caption Gêm gyfartal gafodd Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn 2003

Fe fydd pêl-droedwyr Cymru yn wynebu Bosnia-Herzegovina mewn gêm gyfeillgar ar Awst 15 ar drothwy gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Does 'na ddim manylion eto am leoliad nac amser, ond mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau y bydd y gêm yn ne Cymru.

Ychwanegodd llefarydd y bydd y lleoliad yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd manylion Cwpan Carling ar gyfer y tymor newydd yn cael eu cyhoeddi.

Mae Cymru wedi wynebu Bosnia-Herzegovina unwaith o'r blaen, yn Stadiwm y Mileniwm yn 2003 pan gafwyd gêm gyfartal o 2-2.

Dyma fydd gêm olaf Cymru cyn i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ddechrau ym mis Medi.

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg ar Fedi 7 cyn teithio i Serbia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Ym mis Hydref fyddan nhw'n wynebu'r Alban cyn teithio i Croatia.

Mae'r Gymdeithas eisoes wedi cyhoeddi y bydd tîm Chris Coleman yn wynebu Mexico mewn gêm gyfeillgar yn Efrog Newydd ar Fai 27.

Credir bod Ffrainc wedi cysylltu gyda'r Gymdeithas i drefnu gêm gyfeillgar ar Fehefin 5.

Fe fydd Cymru yn wynebu Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29, Gêm Gioffa Gary Speed.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.