'Methiant cenhedlaeth,' yn ôl y bardd, Gwyneth Lewis

Gwyneth Lewis Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Darlledwyd darlith Gwyneth Lewis ddydd Mercher

Mae'r bardd Gwyneth Lewis wedi dweud mai "methiant mwyaf" ei chenhedlaeth hi o siaradwyr Cymraeg yw'r "gostyngiad trychinebus yn ansawdd rhaglenni a nifer gwylwyr S4C".

Roedd hi'n dweud hyn yn ei darlith radio sy'n nodi 50 mlynedd ers Tynged yr Iaith, darlith ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher.

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C a chyn-Brif Weithredwr y sianel, Huw Jones, wedi gwrthod y sylw, gan ddweud mai "mater o farn" oedd hyn ac na allai "dderbyn yn bersonol y geiriad 'gostyngiad trychinebus'".

Dywedodd y bardd fod sefydlu'r sianel yn 1982 yn ddigwyddiad "a oedd, yn ei amser, cyn bwysiced â chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg".

"Cafodd y sianel ei hariannu'n hael gan y llywodraeth. Roedd yr her yn un sylweddol," meddai.

"Y gofal cyntaf oedd gwasanaethu cynulleidfa draddodiadol oedd yn heneiddio - cynulleidfa Dechrau Canu, Dechrau Canmol, er enghraifft - gyda rhaglenni coeth o safon uchel yn anrhydeddu'r gorau o etifeddiaeth geidwadol diwylliant Cymraeg.

'Amaturaidd'

"Yn bwysicach fyth - ond llawer anos - oedd yr angen i ddenu a datblygu cynulleidfa ifanc i'r sianel a hynny mewn cyfnod pan oedd y cyfryngau digidol rhyngwladol yn gwneud i bopeth arall edrych yn amaturaidd ac anniddorol.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Huw Jones: Yr her yw 'darparu rhywbeth i bob carfan o gynulleidfa ar un sianel'

"Oherwydd newidiadau difeddwl i raglenni traddodiadol, codwyd gwrychyn y gynulleidfa hon a gwyliodd ieuenctid sianelau eraill."

Dywedodd Mr Jones ar raglen Taro'r Post Radio Cymru ei fod yn ddigon hen i gofio'r ansawdd oedd yn y blynyddoedd cynnar ac i gofio bod 'na uchafbwyntiau gwych yn ogystal â rhaglenni gwachul.

"Y dyddiau hyn, yn fy marn i, mae 'na safon sy'n eitha' cyson o uchel ar y sianel a'r her anferth, fel erioed, ydi darparu rhywbeth sy'n apelio at bob carfan o'r gynulleidfa a hynny ar un sianel.

'Calonogol'

"O ran gwylwyr, dydi'r niferoedd ddim yr hyn fuon nhw pan oedd S4C yn sianel ddwyieithog ond, o ystyried y newidiadau aruthrol sydd wedi bod yn nifer y sianelau eraill sydd ar gael, mae'r cynnydd sydd wedi ei weld yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn galonogol ac yn awgrymu bod 'na deyrngarwch i'r sianel er na allwn ni fyth bwyso ar ein rhwyfau.

"Mae 'na wastad le i gynyddu ac ymestyn allan ymhellach a dyna y byddwn ni'n ceisio ei wneud.

"Mae pob gwyliwr Cymraeg yn wyliwr dwyieithog ac ar gael i wylio pob sianel arall - fel y byddwn ni gyd yn ei wneud - ac felly ein cystadleuaeth ni ydi'r môr o sianeli eraill sydd allan yna."

Ychanegodd fod S4C wedi ei chreu "er mwyn creu cydbwysedd rhwng yr hyn sy'n cael ei ddarlledu ar yr holl sianeli Saesneg a'r hyn y gellir ei wneud i geisio gwrthbwyso hynny yn y Gymraeg".