Y Gweilch yn penodi Steve Tandy fel prif hyfforddwr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweilch wedi penodi Steve Tandy fel eu Prif Hyfforddwr yn lle Sean Holly.
Ac mae cyfarwyddwr hyfforddi'r tîm, Scott Johnson, wedi penderfynu gadael y clwb wythnosau yn gynt na'r disgwyl.
Bydd Tandy, 32 oed, yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf pan fydd Y Gweilch yn herio Aironi yn Stadiwm y Liberty nos Wener.
Bydd Tandy, sy'n hanu o Donmawr ger Port Talbot, yn cael ei gynorthwyo gan hyfforddwr y blaenwyr, Jonathan Humphreys.
Chwaraeodd Tandy 102 o weithiau i'r Gweilch rhwng 2003 a 2010.
'Profiad gwych'
Fe fydd yn rhoi'r gorau i'w swydd fel hyfforddwr Pen-y-bont ar Ogwr.
"Mae hwn yn gyfle gwych i mi ac rwyf wedi cynhyrfu'n lân wrth feddwl am yr hyd sydd i ddod," meddai.
"Gweithiais yn galed i ddatblygu fel hyfforddwr pan roeddwn i'n dal i chwarae i'r Gweilch ac roeddwn i'n ffodus i fod yn aelod o glwb sy'n gwerthfawrogi datblygu hyfforddwyr.
"Mae hyn wedi fy ngalluogi i gael profiad gwych gyda'r Gweilch a Phen-y-bont ar Ogwr."
Roedd Holley yn gynorthwyydd i gyn-reolwr y Gweilch, Lyn Jones, pan sefydlwyd y rhanbarth yn 2003.
Pan adawodd Jones ym mis Mai 2008, Holley a chyn-gapten Cymru Jonathan Humphreys, oedd yn gyfrifol am Y Gweilch.
Bydd Johnson yn ymuno â thîm hyfforddi'r Alban ddiwedd y tymor.
Ond mae'r Gweilch wedi derbyn ei gynnig i ymddiswyddo yn syth.
Dywedodd cyfarwyddwr y Gweilch, Mike Cuddy, ei fod yn amser i "fywiogi pethau".
"Mae Sean yn cytuno ei fod yn amser iddo dderbyn her newydd ac mae'n rhoi cyfle iddo ef a'r Gweilch i gamu ymlaen," meddai.
Straeon perthnasol
- 14 Chwefror 2012